Dydd Sul 22 ain Mai 2016
Hanes Naturiol Eryri
Byddwn yn dilyn hen lwybr y porthmyn, mynd trwy hen goetir, pasio hen fwyngloddiau, a chroesi gweundir. Dyma gyfle i ddysgu am yr hanes folcanig a thectonig sydd wedi creu’r creigiau a’r dirwedd yn Eryri.
Hyd: Trwy’r dydd 5 awr
Pellter: 11km / 7 milltir
Cyfarfod: 9.15 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Gradd: Cymedrol
Arweinydd: Jim Langley o Nature’s Work
Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain. Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.