Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026 08.45 y.b.
Teithio trwy amser Tocynnau: £12
Dechreuwn wrth Gofeb Trychineb Argae Dolgarrog a dringo llethrau gorllewinol Dyffryn Conwy gan ddilyn llwybrau anaml eu defnydd, hen draciau a lonydd tawel. Ar hyd y ffordd, byddwn yn darganfod sut mae’r dirwedd, bywyd gwyllt a defnydd tir wedi esblygu dros y canrifoedd.
Pwynt uchaf y daith yw bryngaer dda ei diogelu o’r Oes Haearn, sef Pen y Gaer (385m), sydd hefyd yn cynnwys carneddau claddu o’r Oes Efydd o fewn ei muriau enfawr.
O’r copa, ceir golygfeydd godidog o’r Carneddau, Dyffryn Conwy a thu hwnt. Dychwelwn ar draws tir uchel, cyn disgyn trwy goetir hynafol Coed Dolgarrog yn ôl i’n cerbydau. Taith sy’n llawn hanes, golygfeydd amrywiol a golygfeydd hyfryd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 milltir / 12 km
Gradd: Cymedrol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 08.45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded ac yn ôl.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Pete Kay a Greg Grundy
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
