Llwybr Huw Tom

Dydd Sul 18 Mai, 2025

Llwybr Huw Tom

Taith gerdded o Rowen dros y topiau i Benmaenmawr yw hon.

Bu Huw Thomas Edwards yn wleidydd a oedd yn gweithio yn Chwarel Graiglwyd quarry ym Mhenmaenmawr. Yn Rowen y gafodd o’i eni, ac byddai’n cerrded rhwng y ddau lle bob dydd. Mae ‘Taith Gerdded Huw Tom’ bellach yn llwybr swyddogol sydd â golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy, y Gogarth a Bae Lerpwl.

Mae modd lawrlwytho pdf o’r llwybr yma.

Byddwn yn teithio i Benmaenmawr yn ein minibws, wedyn cerdded dros y topiau ac i lawr i Rowen – i dafarn y Tŷ Gwyn am banad neu beint. Byddwn wedyn yn dal y minibws yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, efo darnau mwy serth a garw.  Dewch â dillad cynnes a sgidiau da.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  9:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Tanya Scheltinga a Colin Devine


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig