Nofio Gwyllt

Dydd Gwener 15 Mai, 2026  9.30 y.b.

Cerdded a Nofio Gwyllt  –  Ymlaciwch drwy dipio yng nghoedwig hudolus Gwydir      –    Tocynnau: £12

Bydd dau grŵp o hyd at 10 o bobl yn mwynhau taith gerdded a nofio gwyllt yn nyfroedd tawel llyn anghysbell.

Bydd dau o’n harweinwyr cerdded yn mynd efo’r cerddwyr, a bydd y nofio o dan oruchwyliaeth achubwyr bywyd Ffit Conwy a’r hyfforddwraig nofio dŵr agored, Vivienne Rickman.

Ar ôl rhannu’n ddau grŵp mwy neu lai yn gyfartal – bydd y grŵp cyntaf yn cerdded i fyny o Drefriw, gan gyrraedd y llyn anghysbell mewn pryd i gael cinio. Ar ôl nofio hamddenol a diod boeth, byddwch yn cerdded i lawr i fwynglawdd Hafna lle bydd y bws mini yn eich cludo yn ôl i Drefriw – i gael cacen!

Bydd yr ail grŵp yn mynd ar y bws mini i fyny i fwynglawdd Hafna, ac yna’n cerdded i fyny i’r llyn ar gyfer y nofio. Ar ôl trochiad ymlaciol, byddwch yn cael cinio efo’r grŵp cyntaf, cyn cerdded yn ôl i lawr i Drefriw.

Mae’r cyflymder a’r pellter rydych chi’n ei nofio yn dibynnu arnoch chi, ond mae hwn ar gyfer nofwyr dŵr agored / oer profiadol yn unig.

Awgrymwn eich bod yn dod â sach gefn yn cynnwys:
* Digon o haenau cynnes.
* Offer nofio – gan gynnwys siwt wlyb, cap nofio a ‘tow float’ os oes gennych un, ac esgidiau dŵr neu fŵts neopren.
* Gwisg newid / tywel, a het wlân a menyg ar gyfer wedyn.
* Meddyginiaeth bersonol ac amlen/bag ar gyfer eich pethau gwlyb.

Mae haenau cynnes, diod gynnes a byrbrydau/bwyd ar gyfer ar ôl eich nofio yn hanfodol.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  5 milltir / 8 km o gerdded

Gradd:  Hawdd / Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)  Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Cludiant:  Byddwn yn teithio un ffordd yn y bws mini – un ai allan neu’n ôl

Arweinwyr:    Jan Blaskiewicz a Karen Martindale
Staff Ffit Conwy: Roger Pierce a Zac Pierce

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig