Dydd Sul 22ain Mai
Sgrialu Ceunant i’r mentrus
Mae sgrialu ceunant yn weithgaredd llawn hawl sydd yn golygu naill ai’n mynd i fyny neu i lawr ceunant a rhaeadrau, neidiau i mewn i blymbyllau, a hefyd sleidiau, yn un o’r llefydd hardda a mwyaf arbennig yng Ngogledd Cymru – naill ai yng Ngheunant Afon Ddu neu yng Ngheunant Afon Geirionydd. Darperir pob cyfarpar diogelwch ar y cyd â siwtiau gwlyb 5mm (dwedwch eich maint wrth fwcio – S,M,L,XL), helmedau a harneisiau.
Dewch â dillad nofio, tywel, a hen drêners/esgidiau (fydd yn mynd yn wlyb)
Hyd: Bore 3.5 awr
Pellter: 3km / 2 filltir
Cyfarfod: 9.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw i gael eich geriach, wedyn mynd yn eich car eich hun neu rannu ceir; mae’n siwrnai fer i sgrialu
Arweinydd: Andy Jones, Seren Ventures
Hawdd / Cymedrol
Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain. Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Gellir archebu rŵan.