Gofod Glas – Tirlun Dyfrol

Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026   10.00 y.b.

Gofod Glas – Tirlun Dyfrol

Ar ôl cofrestru, byddwn yn trefnu i rannu ceir fyny i faes parcio Crafnant. O fan hynny, byddwn yn cerdded o dan chwarel lechi drawiadol Clogwyn Fawr ac ymlaen at gofeb Taliesin ym mhen draw Llyn Geirionydd.

Gan ddilyn y ffordd dawel at y safle picnic (lle mae toiledau ar gael), byddwn wedyn yn dringo i fwlch sy’n edrych dros Lyn Crafnant a’i gylch o fynyddoedd, cyn mynd o amgylch pen y llyn ac yn ôl i’r maes parcio.

Yn ystod y daith, bydd cyfle i ganolbwyntio mewn ffyrdd mwy creadigol ar bwnc dŵr croyw, gan archwilio’n ddyfnach ein cysylltiad personol â’r tirlun a’n heffaith gyfunol arno.

Bydd cyfle i siarad yn Gymraeg efo staff Gofod Glas os hoffech chi.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  3 filltir / 5 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)   Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Cludiant: Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded ac yn ôl.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr: Terry Smith a Iwan Edwards

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig