Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026 08.00 y.b.
Chwildaith y Chwarelwyr Tocynnau: £12
Byddwn yn cerdded yn ôl traed tri dyn a gerddodd ar 9fed Ionawr 1865 o Fethesda i Chwarel Cwm Eigiau. Ond gall cerdded ar y Carneddau uchel ar ganol y gaeaf fod yn angheuol …
Bydd ein taith yn dilyn llwybr bwriadedig y dynion, dros dir difaddeuant y Carneddau – ond sydd â golygfeydd gwych dros y mynyddoedd a’r arfordir.
Ar ôl y daith bydd diod boeth a biscedi yn ein disgwyl yn neuadd y pentref, a byddwn yn ôl mewn digon o amser i chi fynychu taith gerdded arall, os hoffech chi!
Hyd: trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 10 milltir / 16 km
Gradd: Llafurus
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 08:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn teithio allan ac yn ôl yn y bws mini
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Colin Devine a Mike Bolsover
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
