Dydd Sul 17 Mai, 2026 10.00 y.b.
Trem o’r Bedd – Tocynnau: £12
Ddim yn aml byddwn ni’n cerdded ar yr ochr arall i Ddyffryn Conwy, ond byddwn yn cerdded i fyny i Foel Trefriw, sydd bron i 1,000′ uwchben Betws y coed, un o’r llefydd pellaf o le mae modd gweld Trefriw. Bydd y daith yn rhoi golygfeydd bendigedig dros fynyddoedd gogleddol Eryri.
Byddwn wedyn yn disgyn i’r siambr gladdu neolithig enwog yng Nghapel Garmon. I grŵp o’r enw ‘Cotswold-Severn’ mae’r math hwn o siambr yn perthyn – dyna lle fe’u ceir, fel arfer – felly mae’n ddirgel pam mae’r un hon yn fa’ma.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 7 milltir / 11 km
Gradd: Cymedrol, efo rhyw 1,000′ o esgyniad.
Mae’n serth i gychwyn, wedyn cymedrol. Mae ‘na ambell nant i’w chroeso, ac ambell ardal gorslyd, felly gwisgwch esgidiau addas. Efallai bydd ‘na wartheg mewn rhai caeau.
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mike Bolsover a Paul Newell
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
