Darganfod Dolgarrog

Dydd Sadwrn 17 Mai, 2025

Teitl

Mae Dolgarrog yn bentref bach ar ochr gorllewinol Dyffryn Conwy, 3 milltir i’r gogledd o Drefriw. Ar y llethrau uwch ei ben mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog.

Mae’r pentref presennol a’i dai yn ganlyniad i lawer o waith adeiladu a wnaed ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Bu hyn yn defnyddio’r dŵr ym mynyddoedd y Carneddau er mwyn pweru’r ffatri alwminiwm yn y pentref.

Mae 2025 yn dathlu 100 mlynedd ers trychineb Dolgarrog, felly byddwn yn cychwyn wrth y gerddi coffa.

Byddwn ni wedyn yn cerdded o’r pentref, i fyny drwy’r warchodfa natur er mwyn archwilio hanes diwydiannol a chyn-ddiwydiannol yr ardal. Ar y ffordd byddwn ni’n ymweld â’r rhaeadrau fu unwaith yn enwog, aneddiadau gwag, cynefinoedd planhigion prin, a cheir golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy a mynyddoedd y Carneddau.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, ond darnau anwastad

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Pete Kay a Greg Grundy


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig