Dydd Sadwrn 17 Mai, 2025
Pedol Crafnant
Dydy hon ddim yn daith i’r rhai gwangalon! Byddwyn yn dilyn llwybr Ras Melin Trefriw, sydd âg esgyniad o ryw 4,000 o droedfeddi (h.y. yn uwch na’r Wyddfa!).
I gychwyn byddwn yn esgyn Cefn Cyfarwydd – y grib y tu ôl i Drefriw – cyn anelu ar hyd ei thop llydan i copaon Creigiau Gleision. O fa’ma mae ‘na olygfeydd gwych o’r Glyderau, yr Wyddfa, a hyd yn oed o’r arfordir. Ar ôl ymweld â thopiau is Craiglwyn, Craig Wen a’r Crimpiau, byddwn yn disgyn i Lyn Crafnant, wedyn cerdded dros Fynydd Deulyn i Lyn Geirionydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw.
Mae’r ardal hon yn anghysbell, mae un rhan yn wlyb dan draed, ac mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr. (Efallai y basai gaiters yn syniad da mewn mannau.)
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 11 milltir / 17.5 km
Gradd: Anodd, llafurus
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 9:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Colin Devine a Nick Denney
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
