Y Carneddau

Dydd Sul 18 Mai, 2025

Y Carneddau

Byddwn yn mynd yn ein bws mini i Lanbedr-y-Cennin, uwchben Dyffryn Conwy, i gychwyn cerdded yno.

Byddwn wedyn yn pasio Bwlch-y-gaer i ddilyn llwybr uwchben llynnoedd Dulyn a Melynllyn – sy’n cyflenwi dŵr i’r arfordir – i’r grib rownd Carnedd Gwenllian and Foel Grach.
Byddwn wedyn yn disgyn i Gwm Eigiau, islaw clogwyni Carnedd Llewellyn cyn gwneud ein ffordd drosodd i Lyn Cowlyd, lle bydd y minibws yn mynd â ni’n ôl i Drefriw.

Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:    11 milltir / 18 km

Gradd:    Mynydd uchel, llafurus8
Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini am y daith hon.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  8:45y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Nick Livesey, Mike Bolsover a Brian Watson


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig