Dal breuddwyd

Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026  09.15 y.b.

Dal breuddwyd     Tocynnau:  £12

Ymunwch â ni am daith gerdded drwy Goedwig Gwydir brydferth i ymweld â Chaerdroia—y labyrinth parhaol yn y goedwig a grëwyd ac a ofalir amdano gan Olygfa Gwydyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol.

Nid yw’r llwybr yn hir, ond mae’n serth, yn anwastad, a gall fod yn fwdlyd ac yn lithrig mewn mannau—mae esgidiau cadarn a lefel resymol o ffitrwydd yn hanfodol.

Yng Nghaerdroia, byddwch yn cael amser i grwydro a mwynhau’r gofod unigryw hwn yn y coed cyn creu eich ‘dream catcher’ naturiol eich hun. Darperir yr holl ddeunyddiau, ac mae croeso i chi gynnwys mân drysorau naturiol neu eitemau personol sy’n golygu rhywbeth i chi.

Ar ôl cinio, byddwn yn cerdded yn ôl drwy’r coed prydferth hyn, gan fwynhau awyr iach, creadigrwydd a chwmni da.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: 3.5 milltir / 5 km

Gradd: Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  09:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)   Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Cludiant:  Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded ac yn ôl i Drefriw.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr: Maria Denney a Liz Burnside

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig