Blodau’r gog a chacen

Dydd Sadwrn 17 Mai, 2025

Blodau’r gog a chacen

Taith gerdded gron o Drefriw i Lyn Crafnant a’i gaffi yw hon.

Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd. O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir. Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.

Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal. Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Hawdd / Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  11:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Lara Martin a Stuart Martin


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig