Dydd Sadwrn 21ain Mai
O Dan Y Rhwymynnau
Bydd y daith gerdded hon (efo gwirfoddolwyr o Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan) yn dangos i chi sut i ddelio â rhai o’r anffodion a damweiniau bach mwya cyffredin pan yn cerdded, e.e. pigiadau, crafiadau a ffêr wedi’i throi. Byddwn wedyn yn dychwelyd i’r Neuadd i ddarganfod – o’r tu mewn – sut mae creu a ffugio anafusion er mwyn paratoi at Ddigwyddiadau Argyfwng Mawr. A rhowch gynnig arni eich hun!
Hyd: Trwy’r dydd, 5 awr
Pellter: 5km / 3 milltir
Cyfarfod: 10.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Gradd: Hawdd
Maint y grŵp: 12
Cyfaddasrwydd: Pawb, gan gynnwys teuluoedd
Arweinydd: Bernard Owen o ‘Snowdonia Safaris’
Gwirfoddolwyr efo Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan: Christine Townley, Michael Evans, Louise Fitzgerald
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Gellir archebu rŵan.