Dydd Gwener 17 Mai, 2024
Y ddynes sy’n cysgu
Taith gerdded lafurus o Drefriw i Capel Curig yw hon.
Wedi cerdded i fyny Cefn Cyfarwydd y tu ôl i Drefriw, byddwn yn pasio’r topiau eraill o Greigiau Gleision, Craig Wen a Chrimpiau, llefydd sy’n cynnig golygfeydd gwych o’r mynyddoedd. Mae’n debyg bydd hi’n wlyb dan draed mewn mannau.
Byddwn yn dychwelyd o Capel Curig yn ein minibws.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 8.5 milltir / 13 km
Gradd: Taith fynydd cymhedrol/galed
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Addasrwydd: Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a cherdded ar dir garw, a bod yn ddigon heini ar gyfer y daith hon.
Cofiwch – Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.
Amser ymadael: 09:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Roger Pierce a Zac Pierce
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
