Ewch â fi adra!

Dydd Sul 19 Mai, 2023

Ewch â fi adra!

Mae ‘na gymaint o ffyrdd hyfryd yn ôl o Fetws y coed fel ein bod ni’n hapus i ail-wneud y daith gerdded hon.

Bydd ein minibws yn mynd â ni i Fetws-y-coed i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy.

Byddwn yn cerdded i fyny trwy geunant Aberllyn, cyn cyrraedd Llyn Parc a cherdded ar hyd ei lannau. Byddwn wedyn yn disgyn i Hafna, cyn pasio rhai o’r llynnoedd hyfryta yn y goedwig. Mae hon yn daith odidog – ar gyflymdra hamddenol – a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri.

Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o draciau coedwig eang a llwybrau eraill.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  8 milltir / 12 km

Gradd:  Cymedrol, efo cwpl o darnau serth

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Nigel Thomas a Dave Tetlow


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig