Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024
Yn y seithfed nef
Taith gerdded gron o Drefriw i ymweld â saith o’r llynnoedd gorau yn yr ardal yw hon, efo golygfeydd gwych trwy’r dydd.
I gychwyn byddwn yn anelu am Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd (lle mae ‘na doiledau), wedyn ymlaen at Lyn Bod Bach a Llyn Bodgynydd. Ar y ffordd yn ôl i Drefriw (trwy Lanrhychwyn a’i hen eglwys) byddwn yn pasio Llyn Bwlch y Gwynt a Llyn Glangors (yn y llun), dau lyn hyfryd sydd â golygfeydd tuag at y mynyddoedd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 11 milltir / 18 km
Gradd: Cymedrol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 09:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mat Hancox a Matthew Driver
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
