Dydd Gwener 15 Mai, 2026 9.00 y.b.
Byddwn yn cerdden o Drefriw i Lyn Parc (rhwng Trefriw a Betws y coed).
Wedi cerdded i ymylon y goedwig uwchben Castell Gwydir, byddw nyn dilyn y llwybr sy’n edrych dros Ddyffryn Conwy, hyd at Lyn Parc. Ar ôl cerdded wrth ymyl y llyn (2/3 milltir o hyd), byddwn wedyn yn dychwelyd i Drefriw trwy rai o’r rhannau mwya hyfryd yng Nghoedwig Gwydir. Disgwylwch lwybrau hawddgar, mwy o lynnoedd a golygfeydd da.
Cyn cyrraedd Trefriw byddwn yn galw yn eglwys Llanrhychwyn, un o’r eglwysi hynaf yng Nghymru.
Disgyliwch lwybrau hardd a golygfedd da trwy’r dydd!
Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 10 milltir / 16km
Gradd: Cymedrol, hamddenol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 9.00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tony Ellis a Colin Devine
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
