Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar

Dydd Gwener 15fed Mai, 2020

Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar  (prynhawn)

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded fyfyriol a meddylgar i gysylltu â’r hunan a byd natur.

Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).

Taith gerdded fyfyriol fer (45 munud) fydd hon o Gapel Gwydir Uchaf ar hyd Llwybr yr Arglwyddes Mair, ar ymyl Coedwig Gwydir.  Bydd ‘na sesiwn fer o fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon. Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.

Hyd:  1.5 – 2 awr

Pellter:  Tua 1.5 filltir / 2 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cyfarfod:  1:15 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf (2 filltir o Drefriw)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinyddion:  Gwen Parri a Kim Ellis

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig