Dydd Sul 22ain Mai 2016
Melinau a Mwyngloddiau, a mwy
Taith gerdded uwchben Dyffryn Crafnant i safle hen fwynglawdd Pandora, sydd â golygfeydd gwych. Cinio wrth Lyn Geirionydd (dowch â phecyn bwyd) lle mae toiledau. Mae’r llwybr yn ôl i Drefriw ar lan y llyn a thrwy Klondyke yn fwy anwastad.
Ceir hyd i bob math o hanes lleol, ond bydd y pwyslais ar daith gerdded sydd yn ysblennydd yn ei rhinwedd ei hun. Gwisgwch esgidiau cerdded. Byddwn yn ôl yn Nhrefriw mewn pryd i ymuno â’r Ŵyl Gacennau yn neuadd y pentref.
Hyd: Trwy’r dydd, 5 awr
Pellter: 11 km / 7 milltir
Cyfarfod: 0930 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631).
Gradd: Cymedrol
Arweinyddion: Tony Ellis awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa
Colin Boyd arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored
Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain. Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded
Gellir archebu rŵan.