Llyn Elsi yn y coed

Dydd Gwener 15 Mai, 2026     8.45 y.b.

Elsi yn y Coed

Dihangfa heddychlon i fyd natur        Tocynnau: £12

Ymunwch â ni am dro drwy’r coed i Lyn Elsi dawel, gan grwydro rhai o lwybrau tawelach y goedwig a’i chorneli cudd. Mae’r daith hon, sydd ychydig dros 5 milltir o hyd, yn cynnig dihangfa heddychlon i fyd natur, gydag amser i fwynhau llonyddwch y llyn a’r cyfle i ddod ar draws bywyd gwyllt diddorol ar y ffordd. Dyma wibdaith ysgafn ac anturus i’r rhai sy’n mwynhau darganfod lleoedd oddi ar y llwybr batredig.

Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter: 6 milltir / 9.5 km

Gradd: Cymedrol

Mae gan y daith hon rai llwybrau a thraciau serth ac anwastad a all fod yn wlyb ac yn lithrig o dan draed. Gall fod cyfnodau hirach o esgyn, ac efallai y bydd ffyn cerdded o fudd i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo ar gyfer y tywydd a bod gennych esgidiau addas.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  8.45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)  Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Cludiant:  Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw ac yn ôl.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Maria Denny & Marianne Siddorn

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig