Cerdded a beicio

Dydd Gwener 17 Mai, 2024

Cerdded a beicio

Taith gerdded o Drefriw i Geirionydd yn ôl yw hon, efo’r cyfle i feicio un ffordd.

Mae hon yn daith sydd yn cynnwys elfen o feicio – byddwn yn eich cyflenwi ag e-beics (h.y. beics sydd â batris). Yn y bôn bydd ‘na ryw  4 milltir o gerdded, wedyn tua 6 milltir o feicio.

Bydd hyn yn gyflwyniad i e-beics – ar lonydd a ffyrdd distaw, efo golygfeydd hyfryd o Ddyfryn Conwy, ei lynnoedd, y bryniau a’r mynyddoedd.

(Sylwer – fydd ‘na ddim tir technegol, ond bydd ‘na fryniau serth – i fyny ac i lawr – felly bydd rhaid i bawb fod yn feiciwr gweddol hyderus a galluog.)

Bydd arweinwyr yn cerdded efo’r cerddwyr, a hefyd bydd arwieinwyr profiadol o FFIT Conwy yn beicio efo’r beicwyr.

Bydd ‘na ddau grŵp o hyd at 10 o bobl –

  •  Bydd y grŵp cyntaf yn e-beicio o Drefriw i ardal Lyn Geirionydd. Ar ôl cinio (efo’r ail grŵp) byddwn yn cyfnewid llefydd a cherdded yn ôl i Drefriw ar lwybrau.
  • Bydd yr ail grŵp yn gwneud hyn y ffordd arall, h.y. cerdded i’n lle cinio wrth Lyn Geirionydd, wedyn e-beicio yn ôl i Drefriw.

Sylwer – Os nad ydach chi isio beicio a cherdded yn yr un esgidiau, bydd rhaid i chi ddod ag ail bâr. Byddwch yn reidio efo’ch rycsac beth bynnag.

Byddwn yn darparu helmedau ar eich cyfer.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 4 milltir

Gradd:  Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Brian Watson a Marianne Siddorn


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig