Cestyll yn yr awyr

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Cestyll yn yr awyr

Castell Gwydir yw’r castell dan sylw, a ‘Castles in the Air’ yw teitl y llyfr a ysgrifennwyd gan berchnogion presennol y castell. Bu Gwydir yn sedd i’r teulu pwerus hwn oedd yn disgynyddion Brenhinoedd Gwynedd, ac yn un o’r teuluoedd mwya pwysig yng Ngogledd Cymru yng nghofnodau’r Tuduriaid a’r Stiwartiaid.

Bydd y daith gerdded hamddenol hon yn un o’n rhai hawsa eleni, heb ddim ond tua 200m (650′) o esgyniad. O Drefriw byddwn yn cymrys y llwybr hyfryd o gwmpas y Cob ac ar lan Afon Conwy ar ein ffordd tuag at Llanrwst a Chastell Gwydir. Mae’r daith hon yn cynnwys mynediad i Gastell Gwydir a’i gerddi (am ddim *), lle bydd cyfle i dreulio digon o amser.

Wedyn byddwn yn ymweld â Chapel Gwydir Uchaf (sydd â thu mewn impresif) a’i drysfa (maze) fach gyfagos. Ar ein ffordd yn ôl i Drefriw byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las (‘Rhaeadr y Parc Mawr’ yn Gymraeg), yn rhaeadr sydd yn dal i gyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, a’r dŵr yn llifo mewn camlas fach (leat) dros y dolydd. (Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw ar y rhaeadr.)

* Mae hyn yn bosib trwy gymorth ein noddwr,  Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Diolch!

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol, dim ond ychydig o esgyniad

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  09:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Colin Devine a Liz Burnside


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig