Contents
Dydd Gwener 20fed Mai, 2022
Cynffon y Gaseg Las
Ymunwch â ni am daith leol o’r pentref. Byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las, sydd yn rhaeadr odidog ar ochrau Coedwig Gwydir. Mae’r rhaeadr yn cyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, ac Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw i’r rhaeadr. Byddwn wedyn yn mynd heibio i Gwydir cyn dychwelyd i Drefriw ar lan yr afon. (Gyda llaw, ‘Rhaeadr y Parc Mawr’ ydy’r enw Cymraeg swyddogol ar y rhaeadr, achos mae’n llifo o fwynglawdd Parc!)
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6 milltir / 9.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)
Arweinwyr: Cate Bolsover a Marianne Siddorn
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.