Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024
Fflat owt!
Taith gerdded gron (ffigiwr wyth), wastad o Drefriw i ardal Llanrwst (ac yn ôl) yw hon.
Y daith gerdded hon yw’r un wastataf yn ein gŵyl gerdded – ond am ½ milltir mae’n weddol wastad.
Am y 3 milltir gyntaf byddwn yn cerdded wrth ymyl Afon i’r ochr arall i Lanrwst, cyn mynd i ymweld â hen gapel Gwydir Uchaf. O fama byddwn yn dychweld i Bont Fawr, pont enwog Llanrwst, gan basio caffi Tu Hwnt i’r Bont (sy’n gwerthu hufen iâ!) cyn dychweld i Drefriw ar lwybr arall.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Hawdd, hamddenol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Clive Noble a Bernard Owen
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.