Côr y bore bach

Dydd Sul 17 Mai, 2026   06.00 y.b.

Côr y bore bach         Tocynnau: £7

Ymunwch â gwylwyr lleol am dro hamddenol yn gynnar yn y bore o amgylch cyrion Coedwig Gwydir a mwynhewch gorws y wawr swynol. Wrth gerdded dolen sy’n cynnwys coetir a glan yr afon, byddwch yn dysgu sut i adnabod adar wrth eu cân.

Byddwn yn cerdded ar raddfa hamddenol, er y bydd yna rai adrannau garw a serth byr. Gall y tir fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir esgidiau da a binociwlar.

Ar ôl y daith bydd diod boeth a biscedi yn ein disgwyl yn neuadd y pentref, a byddwn yn ôl mewn digon o amser i chi fynychu taith gerdded arall, os hoffech chi!

Hyd:  Hyd at 3 awr

Pellter:  2 filltir / 3 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  06:00 y.b. o’r prif maes parcio yn Nhrefriw (LL27 0JH, SH781631) gyferbyn â’r felin wlân.
D.S.  Mae’r taith gerdded hon yn cyfarfod ym maes parcio Gower, ddim yn neuadd y pentref.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Shaun De Clancy a Jan Blaskiewicz

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £7    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig