Dŵr glas ac adenydd llwydion

Dydd Sul 17 Mai, 2026  08.45 y.b.

Dŵr glas ac adenydd llwydion

Mae’r daith gerdded wych hon (gan gychwyn a gorffen yn Threfriw) yn cynnwys amrywiaeth o dirwedd – llethrau bryniau, llynnoedd, coetir, fforestydd a rhosydd agored – rhwng Trefriw a Chapel Curig. Byddwn yn pasio Llyn Geirionydd ar y ffordd allan ac ar ein pwynt pellaf (gweler y llun uchod), gobeithio y cawn olygfeydd godidog o Foel Siabod, Yr Wyddfa a Phedol Yr Wyddfa.

Byddwn yn dychwelyd ar draws y rostir o dan y Crimpiau, gan ddisgyn o’r bwlch i olygfeydd godidog Llyn Crafnant, cyn dychwelyd i Drefriw, gan ddilyn afon Crafnant yn agos. Dyma wlad y gog (dyna’r ‘adenydd llwydion’), felly byddem yn synnu’n fawr pe na fyddech yn clywed y gog sawl gwaith yn ystod y daith.

Golygfeydd gwych drwy’r dydd!

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  11½ milltir / 18 km

Gradd:  Cymedrol, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  08:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)  Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr: Tony Ellis a Colin Devine

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig