Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024
Agog / y gog!
Taith gerdded o Drefriw i Gapel Curig yw hon. Gwlâd y gog yw hon, felly dan ni’n disgwyl clywed y gog..
Bydd y daith gerdded hyfryd hon yn mynd â ni trwy bob math o dirwedd: llethrau, llynnoedd, coed a rhostir. Wedi pasio Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant byddwn yn esgyn Crimpiau, bryn efo golygfeydd i bob cyfeiriad, ac un o’r golygfannau gorau yn Eryri. Wrth agosáu at Gapel Curig, gwelwn ni Moel Siabod, Yr Wyddfa a Phedol yr Wyddfa.
Byddwn yn dychwelyd i Drefriw yn ein minibws.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 8 milltir / 13km
Gradd: Cymedrol, ond yn serth i fyny Crimpiau ei hun
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 09:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Nick Denney a Lucy Flood
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
