Grib Lem – sgramblo yn y mynyddoedd

Dydd Gwener 17 Mai, 2024

Grib Lem – sgramblo yn y mynyddoedd

Taith gerdded a sgramblo i fyny Grib Lem, ar lethyrau Carnedd Dafydd, yw hon.

Pell o brysurdeb Dyffryn Ogwen, mae Grib Lem yn cynnig sgramblo ardderchog (gradd 1) ar grib ymysg y mynyddoedd sy’n gorffen ar gopa Carnedd Dafydd (1,044 m / 3,425 tr). Dydy’r llwybr byth yn rhy anodd, efo digon o ddewisiadau. A chofiwch edrych yn ôl bob hyn a hyn i werthfawrogi’r golygfeydd!

Mae’r llun yn dangos rhan o Grib Lem. (© Live for the Outdoors). Medrwch chi weld mwy ar YouTube: Crib Lem in Snowdonia

Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  5 – 6 miles / 8 – 9 km

Gradd:  Taith fynydd galed, efo darn hir o sgramblo gradd 1. Agored mewn mannau.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Addasrwydd;   Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a cherdded ar dir garw, a bod yn ddigon heini ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Cofiwch – Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Amser ymadael:  09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Leo Scheltinga a Paul Newell


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig