Dydd Sul 19eg Mai, 2019
Y teulu ar sgowt
Mae hon yn daith efo gweithgareddau i’r teulu (er bod croeso mawr i bawb). Byddwn yn cerdded heibio i Raeadr y Dylwythen Deg wrth ddilyn Afon Crafnant i Ddyfryn Crafnant, sydd yn ardal llawn blodau’r gog a hen goedydd.
Ymysg pethau eraill byddwn yn gwneud helfeydd sborion (scavenger hunts), chwilota am fwyd gwyllt (eich cyfle i fwynhau Ramson’s a Pignut pie!), cofleidio ambell i goeden, chwarae gemau amgylcheddol, ac ati, tra’n mwynhau ein hunain. Bydd y gweithgareddau yn dibynnu ar gyfansoddiad demograffig y grŵp a’r tywydd, wrth reswm.
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau.
Hyd: tua 5 awr. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 3 milltir / 5 km
Gradd: Hawdd. Fydd y cerdded ddim yn egniol, ac mi fyddwn yn dilyn llwybrau da, gan fwyaf, ond weithiau byddwn yn symud oddi ar y llwybrau i gerdded ar dir mwy garw, felly mae angen esgidiau addas arnoch chi.
Cyfarfod: 10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinwyr: Pete Kay a Nettie Collister
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.