Dydd Gwener 15 Mai, 2026 08:15y.b..
Sgramblo Tocynnau: £12
Mae hwn yn sgrambl Gradd 1 gwefreiddiol yn y Glyderau. Byddwn yn cychwyn o Gaban Ogwen ac yn anelu am Llyn Idwal. Oddi yno, fe fyddwn yn dringo i fyny Senior’s Gully a Senior’s Ridge. Ar ôl clirio’r grib, fe fyddwn yn cyrraedd copaon Glyder Fawr a Glyder Fach, gan ymweld â Chastell y Gwynt a’r Gerrig y Garreg (the Cantilever) — sy’n hanfodol i’r rhai sy’n digon dewr i dynnu llun cofiadwy iawn.
Wedyn, byddwn yn disgyn drwy Fwlch Tryfan, heibio i Lyn Bochlwyd unig ac yn ôl i Gaban Ogwen.
Os bydd y tywydd yn wael, Twll Du (Devil’s Kitchen) ac Y Garn yw’r cynllun wrth gefn.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Mynydd uche, anodd, llafurus, efo darn hir o sgramblo gradd 1. Agored mewn mannau.
Gwybodaeth bwysig: Mae’r sgrambl hwn ar gyfer cerddwyr ffit a phrofiadol yn unig. Bydd yna lwybrau serth ac anwastad, a thraciau anelwig gydag adrannau creigiog ac agored; felly, mae angen pen da am uchder. Gall y tir fod yn wlyb ac yn lithrig o dan draed. Gall yna fod cyfnodau hir o esgyn a disgyn, ac efallai y bydd ffyn cerdded o fudd i chi.
Gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad cynnes a gwrth-ddŵr da, gan gynnwys het a menyg, a sgidiau cryf ac addas (dim trêners).
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 8.15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn mynd allan ac yn ôl yn y bws mini.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Paul Newell a Clive Woosnam
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
