Dyna leol!

Dydd Gwener 17 Mai, 2024

Dyna leol

Taith gerdded gron yn ardal Trefriw yw hon.

Efallai eich bod wedi clywed am Drwyddau Trefriw – cyfres o deithiau cerdded yn ardal Trefriw. Ar y daith gerdded hon byddwn yn cyfino rhan o 4 ohonyn nhw i wneud cylch 7 milltir a fydd byth yn bell o’r pentref ei hun.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Jan Blaskiewicz a Karen Martindale


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig