Cerdded yn y Parc

Dydd Gwener 17 Mai, 2024

Cerdded yn y Parc

Taith gerdded gron o Drefriw hyd at Lyn Parc ac yn ôl (ar lwybr arall) yw hon.

Wedi cerdded o Drefriw i ardal Castell Gwydir, byddwn wedyn yn dilyn y llwybr sy’n edrych dros Ddyffryn Conwy i fyny i Lyn Parc. Byddwn yn cerdded ar lan y llyn (sy’n 2/3 milltir o hyd) cyn dychwelyd i Drefriw trwy rai o’r rhannau mwya hyfryd yng Nghoedwig Gwydir. Disgwylwch lwybrau hawddgar a golygfeydd da.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  09:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Mat Hancox a Matthew Driver


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig