Eleni bydd crysau-T Gŵyl Gerdded Trefriw ar werth!
Bydd y crysau-T hyn ar gael mewn pinc neu ddu, efo’n logo ar y blaen (ac ar yr ‘L’ mae’r dyddiad 2018).
Byddan nhw ar gael mewn meintiau S, M, L, ac XL, ar bris o £7.50
Os hoffech chi archebu un, i’w gasglu (ac i dalu amdano) yn ystod yr Ŵyl Gerdded, wnewch chi ein hebostio ni erbyn 9fed Mai, plis, gan nodi: eich enw, ar ba ddydd byddwch chi’n dod, a hefyd y lliw a’r maint hoffech chi.
Bydd ‘na hefyd gyfle i archebu crysau-T yn ystod yr Ŵyl Gerdded (efo pris ychwanegol y cludiant), ond chewch chi mo’ch crys-T tan ar ôl yr Ŵyl, wrth reswm.