Dydd Sul 21ain Mai, 2017
Hanes Naturiol Eryri
Bydd ein bws mini yn mynd â ni i Gapel Curig, o le byddwn ni’n cerdded yn ôl i Drefriw. Byddwn yn dilyn hen lwybr y porthmyn, mynd trwy hen goetir, pasio hen fwyngloddiau, a chroesi gweundir. Os bydd y tywydd a gallu’r grŵp yn caniatau, byddwn yn dringo i gopa’r Crimpiau, o le mae golygfeydd gwych o’r mynyddoedd o gwmpas. Dyma gyfle i ddysgu am yr hanes folcanig a thectonig sydd wedi creu’r creigiau a’r dirwedd yn Eryri.
Byddwn yn ôl mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd 5 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 11 km / 7 milltir
Gradd: Cymedrol
Cyfarfod: 9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Pete Kay, efo Keith Hulse
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.