Contents
Dydd Sul 21ain Mai, 2017
Tair Afon
Taith gerdded newydd sbon eleni, ac mae’n daith mewn tair rhan: Yn y rhan gyntaf byddwn yn cerdded wrth ochr Afon Crafnant allan o’r pentref ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn caled serth, heibio i rhaeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).
Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon i Gastell Gwydir.
Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob. Byddwn yn ôl mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd – 6 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 15 km / 9.5 milltir
Gradd: Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd hir)
Cyfarfod: 9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Tony Ellis, awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa
Colin Boyd, arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.