Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018
Dros y Bwlch i’r Môr
2018 ydy Blwyddyn y Môr yng Nghymru, felly byddwn ni’n dathlu trwy gerdded dros Bwlch y Ddeufaen uwchben Rowen i’r môr wrth Abergwyngregyn, neu efallai byddwn ni’n gorffen yng Nghonwy wedi nesau at y dref ar hyd Mynydd y Dref. (Pa un bynnag a ddewiswn, down ni o hyd i gaffe am banad cyn dod adra!)
Mae’r llwybr trwy Bwlch y Ddeufaen yn dilyn llwybr Rhufeinig sydd yn pasio meini hir, cylchau cerrig a chromlechi.
Byddwn ni’n teithio i’n man cychwyn yn y bws mini, a fydd hefyd yn dod â ni adra ar ddiwedd y daith gerdded.
Hyd: Trwy’r dydd – 7 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 9 milltir / 14 km
Gradd: Cymhedrol
Cyfarfod: x.xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: i’w gadarnhau
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: Bydd archebu yn agor ar 15fed Mawrth, 2018
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.