Am ‘Eventbrite’

eventbrite logo

Mae ein system archebu yn defnyddio ‘Eventbrite’, y rhaglen ddigwyddiadau boblogaidd  (ond mae’n wefan uniaith Saesneg).

Trwy ei ddefnyddio, byddwch chi’n gwybod eich bod wedi cadw lle, a byddwn ni’n medru cadw llygad ar y niferoedd.

Ac oherwydd bod y teithiau cerdded yn rhad ac am ddim, wneith hi ddim costio yr un geiniog i chi – na i ninnau – sydd yn wych.

 

Os hoffech chi archebu lle ar daith gerdded, dilynwch y ddolen ar dudalen y daith gerdded honno (a ewch â chi i wefan Eventbrite, mewn tab newydd), wedyn dilynwch y cyfarwyddiadau syml, h.y. –

–  Cliciwch i ‘register’ ar gyfer y digwyddiad hwnnw

–  Dewiswch faint o bobl sydd yn eich grŵp (hyd at 4 y person)

–  Cliciwch ar ‘checkout’

–  Rhowch enw pawb sy isio tocyn

 

Mi ewch chi wedyn i’r dudalen gadarnhau.

–  Os oes gynnych gyfrif Eventbrite, logiwch i mewn efo’ch cyfeiriad ebost a chyfrinair.

–  Os nad, cewch gofrestru fel defnyddiwr newydd, trwy fewnbynnu eich enw, cyfeiriad ebost a chyfrinair newydd.

A dyna ni!  Cewch ebost i gadarnhau eich archeb, efo ‘tocyn’ .pdf!  (Does dim rhaid dod â hwn – dim ond gofyn eich enw wnawn ni.)

Hefyd mi gwech chi ebost i’ch atgoffa ryw bythefnos cyn yr ŵyl.

Welwn ni chi yno!

 

Gwybodaeth ychwanegol:

MANYLION  –  Fawr ddim o wybodaeth fydd ar y tocynnau ebost, ar wahân i deitl y daith gerded, y dyddiad a’r amser, gan fod yr holl fanylion ar gael ar wefan Gŵyl Gerdded Trefriw.  Cofiwch roi’r dyddiad yn eich dyddiadur!

DIFFYG LLEFYDD?  –  Wrth archebu eich tocynnau, mi welwch chi faint o lefydd sydd ar gael.  Os, er enghraifft, dach chi isio 4, ond dim ond 3 sydd ar ôl, cysylltwch â ni yn syth – gweler ‘Cysylltwch â ni’ ar waelod y brif sgrîn – ac mi wnawn ni ein gorau glas i’ch plesio.

RHESTR AROS  –  Os nad oes llefydd ar ôl, bydd modd ymuno â rhestr aros fer.  Wedyn, os bydd lle ar gael oherwydd canslad, cewch ebost, ac bydd rhaid i chi ymateb o fewn 24 awr er mwyn hawlio’r lle.

CANSLADAU  –  Os na fyddwch yn medru dod, wedi archebu tocynnau, wnewch chi ganslo eich archeb os gwelwch yn dda, trwy logio i mewn i’ch cyfrif Eventbrite. Dewiswch y daith gerdded benodol, wedyn cliciwch ar ‘cancel order’.  Mae hi mor hawdd â hynny, ac byddwn ni’n medru gwneud eich lle ar gael i rywun arall!   Os bydd eich cais canslo yn fwy cymhleth am ryw reswm, cysylltwch â ni ac mi wnawn ni ei ddatrys.


Yn ôl i’r brig

22 o deithiau cerdded! Rhywbeth i bawb!