GŴYL GERDDED FLWYDDYN NESA : Gwener 18 Mai – Sul 20 Mai

 

 Gŵyl Gerdded Trefriw  19 – 21 Mai, 2017

DIM OND 60 O LEFYDD SYDD AR ÔL!
Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr!

Croeso i Ŵyl Gerdded fwya poblogaidd Eryri!

Mae gynnon ni 3 diwrnod llawn gweithgareddau gwych i chi.  Mae’n edrych fel bydd yr Ŵyl eleni yn fwy ac yn well nag erioed, a rhai o’r teithiau cerdded yn adlewyrchu Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru. Cliciwch ar ‘Y Teithiau Cerdded’ i weld y rhaglen lawn o’r hyn sydd gennym ar eich cyfer.

I archebu, defnyddiwch y ddolen ‘Eventbrite’ ar waelod y dudalen honno i gadw eich lle. (Os hoffech chi wybod mwy am y system archebu hon, cliciwch ar unrhyw bryd ar ‘Am Eventbrite’ ar waelod eich sgrîn.)

Cofiwch hefyd ymweld â’n tudalennau Facebook a Twitter yn aml ar gyfer y newyddion diweddaraf, yn enwedig ynglŷn â llefydd ar gael – weithiau mae pobl yn gorfod dychwelyn tocynnau – neu mae croeso mawr i chi gysylltwch â ni.

Fel dewis arall, trowch i fyny ar gyfer taith gerdded ‘Pot Luck’, neu ewch ar un o’r Trywyddau Trefriw, teithiau hunan-dywys ar gardiau, fydd ar gael ar y diwrnod.

Fe welwch fod ein holl deithiau gerdded yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae codi pres at yr ŵyl bob amser yn her, felly eleni rydym yn gobeithio y bydd pawb sydd yn cymryd rhan yn fodlon gwneud rhodd fach o, dwedwch, £4 am weithgaredd hanner diwrnod, ac £8 am weithgaredd diwrnod llawn. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bydd Gŵyl y flwyddyn nesaf. A sôn am godi pres, peidiwch ag anghofio am ein Raffl Fawr a’n Stondin lyfrau cerdded.

Hoffem ddiolch yn fawr i’r rheiny sydd wedi cyfrannu tuag at yr ŵyl – cefnogwyr, noddwyr, y rheiny sydd wedi codi pres neu sydd wedi rhoddi gwobrau, a’r rheiny sydd yn rhoi eu hamser i arwain teithiau cerdded ac i redeg gweithgareddau.

Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ddiolch i CHI am gymryd rhan. Mwynhewch yr ŵyl, pa deithiau cerdded neu weithgareddau bynnag byddwch chi’n eu gwneud.

Cofion gorau,

Gill Scheltinga,

Cadeirydd, ’Croeso i Gerddwyr’ Trefriw / Gŵyl Gerdded Trefriw

 

 

www.hitwebcounter.com

 

This Website Visits

 

22 o deithiau cerdded! Rhywbeth i bawb!