Contents
Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018
Crib y Glyderau i lawr i Gapel Curig
Taith gerdded mynydd ydy hon. Byddwn yn cychwyn o Wern Gof Uchaf yn Nyffryn Ogwen cyn esgyn Crib y Glyderau (800m). Byddwn wedyn yn dilyn y grib lydan i’r dwyrain heibio i Allt yr Ogof, cyn disgyn i Gapel Curig. Golygfeydd da trwy’r daith. Bydd amser am banad yn y bar ym Mhlas y Brenin wedyn.
Byddwn yn teithio yn ein bws mini i’r man cychwyn, ac yn ôl.
Hyd: Trwy’r dydd – 7 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 6 km / 10 milltir
Gradd: Caled
Cyfarfod: xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: i’w gadarnhau
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: – Bydd archebu yn agor ar 15fed Mawrth, 2018
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.