Wedi gadael eich pecyn bwyd adra?
Peidiwch â phoeni, medrwn ni helpu!
Bydd Maralyn’s, y Cigydd (ond O! cymaint mwy na hynny!) yn hapus i werthu i chi un o’u peis enwog. Hefyd maen nhw’n gwerthu pasteiod, creision, bara, biscedi, ffwythau, diodydd, ayyb. (Mae’r siop ar gau ar ddydd Sul.)
Hefyd bydd Caffi Doti yn hapus i wneud rhywbeth fel brechdan bacwn i chi. Maen nhw’n gwerthu cacennau hyfryd hefyd.
Mae’r Swyddfa Bost (ar agor ar fore Gwener, ond ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul) yn gwerthu melysion a barrau byrbryd, ayyb.