Category Archives: Sat 21 May

Crimpiau

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Crimpiau

Mae Crimpiau (sy’n golygu hard sharp edge; ridge, spur; ledge) wedi’i leoli rhwng Capel Curig a Llyn Crafnant, ac mae’n llecyn manteisiol er ei uwchder o 475m / 1,558 ft yn unig. Mae ffotograffydd Nick Livesey yn deud yn ei lyfr ‘Photographing the Snowdonia Mountains’, “Being little more than a minor incident on a long knobbly ridge, lowly Crimpiau harbours a secret that few would suspect from below”.  Mae eraill wedi deud pethau tebyg.

Byddwn ni’n mynd yn y bws mini o Drefriw i Gapel Curig, wedyn cerdded yn ôl, gan wneud gwyriad bach i esgyn Crimpiau ei hun.  Yn ogystal â Crimpiau, mae’n daith ardderchog efo golygfeydd hyfryd o’r dechrau i’r diwedd.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 9 milltir / 14 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol

Amser ymadael:  9:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Keith Hulse a Matthew Driver

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Afonydd, Llynnoedd a Rhaeadrau

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Afonydd, Llynnoedd a Rhaeadrau

Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan:
Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Tylwyth Teg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn serth byr, heibio i raeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).
Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon o Gastell Gwydir.
Os bydd amser yn caniatau, hefyd byddwn ni’n gwneud gwyriad byr i weld Rhaeadr y Gaseg Las.
Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob.

Hyd:  Trwy’r dydd.     Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd:  Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd, hir)

Amser ymadael:   9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Brian Watson and Liz Burnside

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Byddwn ni’n dal y bws mini i gefn Rowen. Mae hon yn gylchdaith, efo esgyn i’r rhostir agored, llwybr creigiog i grib Tal y Fan, yna i lawr i Fwlch y Ddeufaen.

Dyma ni yn cyrraedd yr A55 gwreiddiol, sef y ffordd gynhanes – Rufeinig sydd yn disgyn yn raddol i’r Afon Conwy.

Mae’r daith yn croesi tirwedd o greigiau igneaidd, llefydd sanctaidd a chyfundrefn o gaeau: yn gyfoeth o elfenau sydd yn cofnodi pwysau a threigliad amser dros 450 o filiynau o flynyddoedd ymlaen i fyd yr amaethwyr cynnar.

Bydd y darn olaf ar y tarmac, can dal y bws mini o Rowen yn ôl i Drefriw.

Cofiwch – weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, rhannau byrion yn serth, ond yn hamddenol

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Ken Brassil ac Idris Bowen
(Mae Ken ac Idris ill dau yn siaradwyr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Y Ffordd Olygfaol Adre

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Y Ffordd Olygfaol Adre

Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus (bws), i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy.
Byddwn yn cerdded i fyny trwy geunant Aberllyn, cyn cyrraedd Llyn Parc a cherdded ar hyd ei lannau. Byddwn wedyn yn disgyn i Hafna, cyn pasio rhai o’r llynnoedd hyfryta yn y goedwig. Mae hon yn daith odidog – ar gyflymdra hamddenol – a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri.  (Toiledau wrth Lyn Geirionydd.)
Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o draciau coedwig eang a llwybrau eraill.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  About 8 miles / 13 km

Gradd:  Cymedrol, efo cwpl o ddarnau serth

Amser ymadael :  10:25 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus i Fetws-y-coed
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws (£3.00), oni bai bod gynnoch chi bas.)

Arweinwyr :  Mike Bolsover a Dave Tetlow

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cerdded yn ardal y llynnoedd

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Cerdded yn ardal y llynnoedd

Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd.  O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir. Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.

Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, felly dewch â chamera. Byddwn yn stopio i gael cinio, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal.  Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6.5 milltir / 10.5 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Amser ymadael:  11:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Mat Hancox a Colin Devine

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Creadigaethau Natur

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Creadigaethau Natur – i deuluoedd

Mae’r daith hamddenol, leol hon ar gyfer teuluoedd, a’r arweinydd fydd yr arlunydd Tim Pugh (gweler ei wefan yma) a fydd yn ein helpu i greu gwaith celf dros dro wedi’i ysbrydoli gan y byd naturiol, gan ddefnyddio deunydd (fel  priciau, dail a moch coed) a gasglir ar ein daith gerdded yn Nyffryn Crafnant. Dewch â chamera er mwyn recordio eich campwaith!

Hyd:  Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 3 milltir / 5 km

Gradd:  Hawdd a hamddenol

Amser ymadael:  11:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Tim Pugh a Cate Bolsover

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ‘Pot Luck’ (Sadwrn)

Taith Gerdded ‘Pot Luck’

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio archebu, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl. Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded swyddogol (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ewch ar un o Trywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau efo mapiau ar gael ar gardiau
  3. Dilynwch Trywydd y Chwedlau, sydd yn daith hunan-dywys ar gerdyn, a lansiwyd yn 2017
Hyd: Addas i’r grŵp. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: o 9.00 y.b. ymlaen yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Er nad oes rhaid archebu, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau sydd yn dal yn berthnasol i bob taith gerdded.

Yn ôl i’r brig