Category Archives: Fri 20 May

Y Grib Bigog a’r Glyderau

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Y Grib Bigog (Bristly Ridge) a’r Glyderau

Byddwn yn teithio i Ganolfan Groeso Dyfryn Ogwen mewn ceir (rhannu ceir), o le y cerddwn i fyny i Fwlch Tryfan i gychwyn esgyniad y Grib Bigog hyd at y Glyderau. Mae hyn yn sgrialfa gradd 1 hir efo mannau agored, ond â digon o leoedd i ymafael. (Gweler y grib yn y llun uchod.) Wedi cyrraedd y copa, byddwn yn archwilio Glyder Fach (994 m / 3,261 ft), gan gynnwys y Gwyliwr (y ‘Cantilever’) a Chastell y Gwynt, ac yna cerdded drosodd i Glyder Fawr (1,001 m / 3,284 ft), cyn disgyn – trwy’r Twll Du, os bydd y cyflyrau’n caniatau – i Lyn Idwal ac Ogwen er mwyn dod yn ôl i Drefriw yn y ceir.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 10 km

Gradd:  Llafurus, mynydd, ac adran hir o sgrialu gradd 1. Cofiwch y bydd hi’n llawer oerach ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr fod gennych ddillad cynnes, gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig, ac esgidiau addas, cryf (dim trênars).

Addasrwydd: Cerddwyr heini a phrofiadol. Rhaid i bawb fod wedi ymdopi â thir garw, a threulio dyddiau hir yn y mynyddoedd

Amser ymadael:  8:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Rob Collister (awdur ‘Days to Remember’) a Paul Newell  (Darllenwch gyfweliad efo Rob yma.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu:  I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Deg Llyn

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Deg Llyn

Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.

Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.

Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir.  Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal.  Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd pan fydd y cymylau’n uchel.  Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig.  Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn yn pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.

Gellir lawrlwytho .pdf o’r daith gerdded yma.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: 15 milltir / 24 km

Gradd: Cymedrol/Caled – ac yn hir

Amser ymadael: 9.15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion: Tony Ellis a Nigel Thomas
(Mae Tony yn siaradwr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Drysau Cysegredig

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Drysau Cysegredig

Taith gerdded hyfryd o Drefriw ydy hon fydd yn ymweld â 3 eglwys a chapel, sef Egwlys Trefriw, hen Eglwys Llanrhychwyn, Capel Gwydir Uchaf ac Eglwys Llanrwst.

O Drefriw byddwn yn cerdded trwy’r coed uwchben Dyffryn Crafnant er mwyn cyrraedd Eglwys Llanrhychwyn, wedyn disgyn ar ymyl y goedwig tuag at Gapel Gwydir Uchaf. Byddwn wedyn yn dilyn yr afon i Lanrwst, a’i dilyn eto yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 7.5 milltir / 12 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Amser ymadael:  10.00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Ken Brassil a Bernard Owen
(Mae Ken a Bernard ill dau yn siaradwyr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cynffon y Gaseg Las

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Cynffon y Gaseg Las

Ymunwch â ni am daith leol o’r pentref. Byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las, sydd yn rhaeadr odidog ar ochrau Coedwig Gwydir. Mae’r rhaeadr yn cyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, ac Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw i’r rhaeadr. Byddwn wedyn yn mynd heibio i Gwydir cyn dychwelyd i Drefriw ar lan yr afon.  (Gyda llaw, ‘Rhaeadr y Parc Mawr’ ydy’r enw Cymraeg swyddogol ar y rhaeadr, achos mae’n llifo o fwynglawdd Parc!)

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 9.5 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Amser ymadael:  10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Cate Bolsover a Marianne Siddorn

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Taith Gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar  (prynhawn)

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded fyfyriol a meddylgar i gysylltu â’r hunan a byd natur.

Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).

Taith gerdded fyfyriol fer (1 awr) fydd hon o Gapel Gwydir Uchaf ar lwybray ar ymylon Coedwig Gwydir.  Bydd ‘na sesiwn fer o fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon. Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.

Hyd:  2 awr

Pellter:  Tua 1.5 filltir / 2 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol (efo rhywfaint o esgyniad a disgyniad)

Amser ymadael:  1:30 y.p. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf (2 filltir o Drefriw)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Gwen Parri a Lin Cummins
(Mae Gwen yn siaradwraig Gymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cerdded a Chyfarth!

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Cerdded a Chyfarth! –  Taith gerdded i gŵn

Fel arfer dan ni ddim yn medru caniatau i gŵn ddod ar ein teithiau cerdded, am nifer o resymau, ond eleni byddwn ni’n trefnu taith gerdded yn unswydd i gerddwyr efo’u cŵn!

Fel arfer byddwn ni’n cyfarfod a chofrestru yn Nhrefriw, ond ar gyfer y daith hon mi fyddwn ni’n cyfarfod ym Mainc Lifio (‘Sawbench’) – y maes parcio ar gyfer trwyddau beics Gwydir Mawr a Bach – sydd ar ymyl Coedwig Gwydir a dim ond 5 munud o Drefriw mewn car (gweler y lleoliad efo cyfeiriadau o Drefriw yma).

O fa’na, byddwn ni’n cerdded ar lwybrau da yn y goedwig lle na fydd ‘na ddefaid nac adar yn nythu ar y ddaear.

Sylwer: Hoffen ni i chi gadw eich cŵn ar dennyn, o.g.y.dd.

Hyd:  Tua 2 awr.

Pellter:  Tua 4 milltir / 6.5 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol

Amser ymadael:  2:00 y.p. o Maes Parcio Mainc Lifio (Sawbench) (SH790 609) ger Castell Gwydir (wedi’i farcio ar y map fel ‘Gwydir Mawr/Bach’, gan mai dyma’r maes parcio ar gyfer y Trywyddau Beics).  SYLWER nad ydy’r daith hon yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd ar ôl eich taith os hoffech chi ddychwelyd i Drefriw. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Jan Blaskiewicz (efo Indie, ei chi) a Val Pontin

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ‘Pot Luck’ (Gwener)

Taith Gerdded ‘Pot Luck’

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio archebu, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl. Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded swyddogol (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ewch ar un o Trywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau efo mapiau ar gael ar gardiau
  3. Dilynwch Trywydd y Chwedlau, sydd yn daith hunan-dywys ar gerdyn, a lansiwyd yn 2017

Hyd: Addas i’r grŵp. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: o 9.00 y.b. ymlaen yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Er nad oes rhaid archebu, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau sydd yn dal yn berthnasol i bob taith gerdded.

Yn ôl i’r brig