Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024
Trwy’r coed – fflora a ffawna Coedwig Gwydir
Bydd y daith gerdded hon, fydd yn mynd â ni uwchben Dyffryn Conwy a thrwy Goedwig Gwydir, yn cychwyn yn Nhrefriw a gorffen ym Metws y coed. Bydd ein diwrnod yn llawn golygfeydd gwych, ac hefyd gwelwn raeadr drawiadol, llyn hardd ac olion diwydiant cloddio’r ardal. Arweinir y daith hon gan ddau o bobl sydd yn gwybod llawer am natur a fydd yn eich cyflwyno i fflora a ffawna ac hanes yr ardal unigryw hon ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Croeso i chi ddod â binocwlars a chwyddwydr.
Sylwch – bydd y llwybr ychydig yn arw a serth mewn mannau.
Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar ein minibws.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Cymedrol, hamddenol, llawer o stopio
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 9:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Maria Denney a Pete Kay
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.