Contents
Dydd Sul 21ain Mai, 2017
Tirweddau’r Gorffennol yng Ngodrau’r Carneddau
Fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas Eryri, rydym wedi ymuno â nhw i gyflwyno’r daith gerdded hon:
Taith gerdded yng Ngodrau’r Carneddau, efo archeolegydd a chynghorwr treftadaeth Dr Sarah McCarthy, gan archwilio rhai o dirweddau archeolegol a hanesyddol yr ardal. Bydd peth o’r cerdded oddi ar lwybrau, felly bydd hi’n arw dan draed.
Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded, ac yn dychwelyn yn yr un modd mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 11 km / 7 milltir
Gradd: Cymedrol/caled
Cyafarfod: 9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631), pan fyddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith.
Arweinydd: Dr Sarah McCarthy a Catrina Scheltinga
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.