Dydd Gwener 15 Mai
Taith Hanesyddol Trefriw
Bydd dau aelod o’r Gymdeithas Hanes Leol yn ein tywys ni ar daith trwy hanes Trefriw. O gyfnod cythryblus Llywelyn Fawr a’i wraig Siwan i’r Oes Fictoria a’r torfeydd a ddaeth ar longau stêm i Drefriw i brofi dyfroedd y Ffynhonnau Rhufeinig ac i gymdeithasu yng Ngwesty’r Belle Vue.
Mae’n bosib ymestyn y daith hon o 2.5km / 1.5 milltir ychwanegol a cherdded i Bont Gower lle cewch olygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy.
Hyd: 2 awr (neu daith estynedig o 3 awr)
Pellter: 3km / 2 filltir (neu 5.5km / 3.5 milltir)
Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw
Dechrau: 10.00am
Archebu: Karen a Jim Black 01492 640329 brynhafod@hotmail.co.uk
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.