Dydd Sul 19eg Mai, 2019
Sgiliau Mordwyo
Bydd hon yn daith gerdded hawdd, efo llawer o gyfle i ddysgu mwy am fordwyo efo map a chwmpawd. Yn ystod y daith mi fyddwch chi’n datrys cliwiau er mwyn gorffen yr helfa drysor hon o gwmpas y Crimpiau a Chraig Wen. Byddwn yn dysgu i chi’r holl sgiliau byddwch chi eu hangen er mwyn dod o hyd i’r gwobrau ar y ffordd!
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6 milltir / 9 km
Gradd: Hawdd a hamddenol.
Cyfarfod: 10.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) ar gyfer rhannu ceir i Gapel Curig (20 munud i ffwrdd) ac yn ôl .
Neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, cyfarfod yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Dave Evans a Nicola Jasieniecka
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.