Pedol Crafnant

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Pedol Crafnant

Dydy hon ddim yn daith i’r rhai gwangalon! Byddwyn yn dilyn llwybr Ras Blynyddol Melin Trefriw, sydd âg esgyniad o ryw 3000′.

I gychwyn byddwn yn esgyn Cefn Cyfarwydd – y grib y tu ôl i Drefriw – cyn anelu ar hyd ei thop llydan i copaoedd Creigiau Gleision. O fa’ma mae ‘na olygfeydd gwych o’r Glyderau, yr Wyddfa, a hyd yn oed o’r arfordir. Ar ôl ymweld â thopiau is Craiglwyn, Craig Wen a’r Crimpiau, byddwn yn disgyn i Lyn Crafnant, wedyn cerdded dros Fynydd Deulyn i Lyn Geirionydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw.

Mae’r ardal hon yn anghysbell, mae un rhan yn wlyb dan draed, ac mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo ‘sgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes sy’n dal dŵr.

Hyd: Trwy’r dydd – 7 awr. Dewch â bocs bwyd.

Pellter: 11 milltir / 17.5 km

Gradd: Caled, mynydd

Cyfarfod: xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: xx

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu: – Bydd archebu yn agor a5 15fed Mawrth, 2018

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.