Afonydd, llynnoedd a rhaedrau

 

Dydd Sul  20fed Mai, 2018

Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau

Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan: Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Dylwythen Deg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn caled serth, heibio i rhaeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).

Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon i Gastell Gwydir.

Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob. Byddwn yn ôl mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Hyd:  Trwy’r dydd  –  6 awr.     Dewch â bocs bwyd.

Pellter:   10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd hir)

Cyfarfod:   xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu: –   Bydd archebu yn agor ar 15fed Mawrth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.