Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau

Dydd Gwener 15fed Mai, 2020

Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau

Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan: Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Dylwythen Deg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn serth byr, heibio i raeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).

Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon i Gastell Gwydir.

(Hefyd byddwn ni’n gwneud gwyriad byr i weld Rhaeadr y Grey Mare’s Tail.)

Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob.

Hyd:  Trwy’r dydd.     Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd:  Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd hir)

Cyfarfod:   9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Nigel Thomas and Linda Roberts

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod. (Ddim ar gael tan ganol mis Mawrth.)
Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Sacred Doors

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd gwirfoddol. Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig